Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 14 Mawrth 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


126(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Arweinydd y Tŷa’r Prif Chwip:

 

Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â Islamoffobia a gwella cydlyniant cymunedol yn sgil y llythyrau yn annog pobl i gosbi Mwslimiaid sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas a'r Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft

(5 munud)

NDM6690 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 20 - Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018.

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 20, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas â'r Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf)

(5 munud)

NDM6689 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018.

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes, i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2018.

</AI6>

<AI7>

7       Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru

(5 munud)

NDM6691 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5:

 

1. Yn mynegi ei ddiolchgarwch am gyfraniad Huw Vaughan Thomas yn ystod ei dymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

2. Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol ag adran 2(3), yn enwebu Adrian Crompton i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Cwmnïau Rheoli Ystadau

(30 munud)

NDM6681 Hefin David (Caerffili)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau.

 

2. Diben y Bil hwn fyddai:

 

a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau llesddeiliaid i rydd-ddeiliaid sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth;

 

b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac

 

c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.


Cefnogwyr:
David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI8>

<AI9>

9       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon

(60 munud)

NDM6688 Lynne Neagle (Torfaen)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. 

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 7 Chwefror 2018.

</AI9>

<AI10>

10   Dadl Plaid Cymru – Pobl Ifanc a chymunedau yng Nghymru

(60 munud)

NDM6692 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.

 

2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau Cymru.

 

3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u denu i'r ardaloedd hynny.

 

4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru;

 

b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;

 

c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfor a'r cymoedd.

 

d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;

 

e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;

 

f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.

 

Adolygiad Diamond - Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru - Adroddiad Terfynol

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

 

1. Yn nodi compact Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o 2016-2017 a chytundeb clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur Cymru o 2007-2011, ac yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru a Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu swyddi sy'n talu'n dda i bobl ifanc mewn cymunedau yng Nghymru drwy gymryd camau sy'n cynnwys:

 

a) lleihau mewnfudo torfol a'r pwysau cysylltiedig y mae'n ei roi ar gyflogau galwedigaethau heb sgiliau a lled-fedrus, fel y datgelwyd yn mhapur gweithio Banc Lloegr ar effaith mewnfudo ar gyflogau galwedigaethol;

 

b) lleihau trethi a rheoleiddio ar gyfer pob busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig;

 

c) lleihau baich treth incwm ac yswiriant cenedlaethol;

 

d) rhoi'r gorau i'r agenda cynhesu byd-eang a datgarboneiddio sy'n agenda gwneuthuredig, a'i gymorthdaliadau gwyrdd cysylltiedig, sy'n trosglwyddo cyfoeth oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog;

 

e) annog cynllunwyr a llunwyr polisi i symbylu creu swyddi â chyflogau da mewn ardaloedd gwledig, pentrefi a threfi llai, yn hytrach na dinasoedd mawr yn unig; ac

 

f) torri cyllideb cymorth tramor nad yw'n ddyngarol ac ailgyfeirio'r arbedion yn gymesur i bobl Cymru. 

 

Bank of England - The impact of immigration on occupational wages: evidence from Britain (Saesneg yn unig)

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

 

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU sy'n nodi cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc ledled Cymru a'r DU.

 

2. Yn nodi'r ffigurau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch sy'n dangos bod graddedigion Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU.

 

3. Yn gresynu bod Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau eraill – ers 1999, wedi methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl ifanc yng Nghymru.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc a chymorth i fusnesau ac entrepreneuriaid drwy:

 

a) diddymu ardrethi busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000);

 

b) cyflwyno cynllun teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt rheilffordd ar gyfer pawb rhwng 16 a 24 oed; ac

 

c) cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau newydd.

 

UK Government - The UK's Industrial Strategy (Saesneg yn unig)

Higher Education Statistics Agency - Destinations of Leavers from Higher Education Longitudinal survey (Saesneg yn unig)

 

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3. Julie James (Gorllewin Abertawe)

 

Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy:

 

a) Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da;

 

b) prentisiaethau o ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn;

 

c) mynediad at dai gan fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y Cynulliad hwn;

 

d) helpu myfyrwyr â’u costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio;

 

e) cynnal Bwrsariaeth y GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru;

 

f) buddsoddi £100m i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

</AI10>

<AI11>

11   Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

12   Dadl Fer

(30 munud)

NDM6685 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar: y camau gweithredu presennol ar y mater allweddol hwn a beth arall sydd angen ei wneud i sbarduno newid yng Nghymru.

</AI12>

<AI13>

13   Dadl Fer - gohiriwyd o 28 Chwefror

(30 munud)

NDM6664 Vikki Howells (Cwm Cynon)

 

Bancio tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon.  

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Mawrth 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>